Swyddi Gwag Presennol
Sylwch mai yn Saesneg yn unig y mae’r cynnwys hwn
Pam gweithio i ni?
Rydym yn gyflogwr sydd wedi ennill gwobrau ac yn gwmni cyffrous lle y mae ein tîm cyfan yn falch o’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud er mwyn helpu pobl i wireddu eu huchelgais.
Rydym yn un o blith grŵp dethol o gwmnïau sydd wedi sicrhau gwobr uchaf Buddsoddwyr mewn Pobl hefyd, ac rydym yn falch o fod wedi sicrhau safon Platinwm am ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cyflogeion. Caiff lefel Platinwm ei sicrhau gan 2% o gwmnïau yn unig ar draws y byd, y maent wedi sicrhau achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Fel cyflogwr sy’n talu’r Cyflog Byw Go Iawn, mae ein cyflogau sylfaenol yn uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Cynigir y cyfle i’n staff ymuno â chynllun pensiwn cyfrannol ac rydym yn cynnig gwyliau blynyddol da a buddion ychwanegol hefyd megis cynllun gofal iechyd Simplyhealth.
Mae ein staff o’r farn bod Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn lle gwych i weithio. Os hoffech chi fod yn rhan o deulu Cambria, cofrestrwch am ein hysbysiadau swydd fel na fyddwch yn colli unrhyw newyddion am y rôl cywir i chi.
Manteision Allweddol
Gwyliau blynyddol hael
O’r adeg pan fyddwch yn cychwyn eich cyflogaeth gyda Cambria, bydd gennych yr hawl i gael 21 diwrnod o wyliau y flwyddyn, ynghyd â’r gwyliau banc statudol dynodedig.
Byddwch yn cael un diwrnod o wyliau ychwanegol hefyd am bob blwyddyn galendr y byddwch yn eu cwblhau (hyd at uchafswm o 5 diwrnod).
Caiff ein holl fuddion gwyliau blynyddol eu cyfrifo ar sail pro rata os ydych chi’n gwneud gwaith rhan-amser.
Yn ychwanegol i’ch hawl gwyliau blynyddol, gallwch ddewis prynu neu werthu gwyliau blynyddol (gan ddibynnu ar hyd eich gwasanaeth), sy’n cynnig y cyfle i chi gael amser i ffwrdd mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’ch ffordd o fyw.
Gweithio hyblyg
Er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a rhannau eraill o’ch bywyd, rydym yn cynnig mathau eraill o wyliau gan gynnwys ar gyfer cyfrifoldebau teuluol a gofalu, er mwyn gwneud gwaith elusennol a gwirfoddol ac amser i ffwrdd ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl.
Pensiwn
Rydym yn cynnig cynllun pensiwn â Chyfraniadau wedi’u Diffinio (DC).
Gwneir cyfraniad o 6% gan y cyflogwr i’r cynllun DC; byddwch yn cyfrannu 4% o’ch enillion pensiynadwy, sef cyfanswm o 10%.
Mae’r cynllun yn cynnig y manteision ychwanegol hyn:
• Yswiriant marwolaeth mewn gwasanaeth (sy’n talu tair gwaith eich cyflog i fuddiolwr a enwebir os byddwch yn marw yn ystod eich cyfnod cyflogaeth gyda ni)
• Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVCs) – sy’n caniatáu i chi wneud taliadau ychwanegol i’ch pensiwn
Hyfforddiant a Datblygu
Pan fyddwch yn gweithio i ni, gallwn warantu:
- gweithgarwch ymsefydlu personoledig er mwyn eich rhoi ar y trywydd iawn a rhaglen ymsefydlu gorfforaethol ryngweithiol sy’n para dau ddiwrnod
- rhaglen bwrpasol lawn o ddatblygiad personol parhaus a hyfforddiant technegol a phroffesiynol
- hyfforddiant arweinyddiaeth sydd wedi ennill gwobrau, a ddarparir i’r holl reolwyr Llinell
- diwylliant hyfforddi cadarn
- Cyfleoedd i ddysgu Cymraeg
Cymorth ar gyfer eich iechyd a'ch lles
Bydd holl gyflogeion Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn cael:
- cynllun ariannol SimplyHealth er mwyn adennill rhywfaint o gost amrywiaeth eang o driniaethau meddygol
- cynllun salwch cwmni er mwyn cynorthwyo staff pan na fyddant yn gallu gweithio oherwydd afiechyd
- llinell gymorth 24 awr gyfrinachol ac am ddim sy’n cynnig cyngor a gwasanaeth cwnsela ynghylch iechyd a lles
- hyfforddiant iechyd a diogelwch cynhwysfawr sy’n benodol i’ch rôl
Yswiriant salwch difrifol
Bydd staff sydd wedi cael eu cyflogi gan Cambria am o leiaf 6 mis ac y maent dan 70 oed, yn cael yswiriant salwch difrifol fel rhan o’u pecyn buddion. Yn unol ag amodau cymhwyso penodol, bydd yr yswiriant yn darparu cyfandaliad penodedig (beth bynnag fo’r cyflog neu’r oriau contract) yn dilyn diagnosis newydd o salwch difrifol a enwir.
Lle gwych i weithio
Gallwch ddarllen mwy am fanteision gweithio i Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn ein llyfryn ynghylch y buddion ar gyfer staff.