Newyddion

10/10/2024

Mae 60 o brentisiaid bellach wedi cael hyfforddiant gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria

Apprentices in front of Cambria van

Derbyniodd chwe phrentis newydd cist dŵls newydd sbon a chwrdd â’u mentoriaid wrth iddynt gwblhau eu hwythnosau cyntaf gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Mae dau brentis yr un wedi dechrau yng Ngogledd, De a Gorllewin Cymru, gan ddod â chyfanswm y gweithwyr sydd wedi ymuno â rhaglen prentisiaeth Cambria i 60 o brentisiaid ers ei sefydlu.

Byddant yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau profiadol o staff wrth astudio ar gyfer cymhwyster CGC Lefel 3 mewn Electro-techneg neu Blymio a Gwresogi neu CGC Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw.

Mae hyn yn golygu, yn ogystal ag adeiladu sgiliau a phrofiad gwerthfawr, byddant yn ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi hwb i’w rhagolygon gyrfa pan fyddant yn cwblhau eu prentisiaethau.

Cambria apprentices with toolkitsMae llawer o gyn-brentisiaid Cambria wedi mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth barhaol gyda’r cwmni.

Dywedodd Geraint Parry, Pennaeth Cyflenwi Gwasanaeth Cynnal a Chadw Cambria: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu chwe phrentis newydd i’n tîm.

Rydym yn ymfalchïo mewn hyfforddi prentisiaid a fydd â’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i adeiladu eu gyrfa naill ai y tu mewn neu’r tu allan i Cambria ar ddiwedd eu cyfnod hyfforddi o ddwy neu bedair blynedd.

“Maen nhw’n rhan bwysig o’n gweithlu ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n mwynhau eu hamser gyda ni.”

I’r rhai sy’n mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth barhaol gyda Cambria, mae rolau dan hyfforddiant wedi’u cyflwyno’n fwy diweddar i helpu i gefnogi’r pontio o brentis i weithiwr.

Mae rolau’r hyfforddeion yn gam nesaf gwerthfawr, gan ganiatáu i gyn-brentisiaid roi dysgu ar waith a magu mwy o hyder. Maent yn gweithio’n annibynnol, gyda chymorth gan reolwyr dim ond pan fo angen.

Mae prentisiaid Cambria yn cael y Cyflog Prentis Cenedlaethol ac yn cael cist dŵls cychwynnol, lwfans tŵls, gwisg gwaith a ffôn symudol gwaith yn ystod eu cyflogaeth.
Maent yn treulio un diwrnod yr wythnos yn astudio gyda darparwr addysg bellach yn ôl eu lleoliad.

Ein partneriaid colegau addysg bellach yw Coleg Cambria yng Ngogledd Cymru, Coleg Penybont yn

Ne Cymru a Choleg Sir Benfro a Choleg Sir Gâr yng Ngorllewin Cymru.

Mae gweddill eu hamser yn cael ei dreulio’n gweithio o ddydd i ddydd yng Ngwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, lle maen nhw’n cael cymorth pwrpasol gan fentoriaid unigol a thîm gyrfaoedd Grŵp Tai Wales & West.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk
07881 379 098

Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here