Prentisiaethau

Mae ein rhaglen prentisiaeth yn cynnig cyfle i chi gael profiad gwaith â thâl wrth astudio ar gyfer cymhwyster diwydiant safonol mewn trydan, gwresogi neu gynnal a chadw eiddo yn gyffredinol. 

Gallwn gynnig profiad cyffredinol gwych, gan roi’r holl sgiliau i chi y bydd eu hangen arnoch wrth i chi weithio ar brosiectau go iawn gyda chymorth tîm o staff profiadol.

Mae gennym raglen dreigl er mwyn recriwtio prentisiaid, felly byddwch wastad yn gweithio ac yn hyfforddi wrth ymyl eraill mewn sefyllfa debyg, ac fel rhan o’n tîm, byddwch yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth o wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.

Fel aelod gwerthfawr o weithlu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, byddwch yn gallu cyfrannu syniadau a fydd yn ein helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i’n cwsmeriaid.

Gallwch ddarllen mwy am ein prentisiaethau isod.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen prentisiaethau, anfonwch e-bost at careers@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526.

Pa lwybrau prentisiaeth y gallaf eu dilyn?

Gall ein prentisiaid ddilyn un o bedwar llwybr gwahanol yn dibynnu ar eu diddordebau a’u huchelgais o ran eu gyrfa. Mae pob un yn arwain at gymwysterau sy’n berthnasol i’r diwydiant. 

  • CGC Lefel 2 Gweithrediadau Cynnal a Chadw 
  • CGC Lefel 3 Gwaith Electrodechnegol 
  • CGC Lefel 3 Plymio a Gwresogi 
A fyddaf yn sicrhau cymhwyster achrededig pan fyddaf yn gorffen?

Gan ddibynnu ar y llwybr y byddwch yn ei ddewis, ar ôl i chi gwblhau’ch prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i safon diwydiant yn y maes o’ch dewis.

Sawl diwrnod y byddaf yn ei dreulio yn y gwaith ac yn astudio?

Bydd ein holl brentisiaid yn treulio o leiaf un diwrnod yr wythnos yn astudio gyda darparwr addysg bellach, a byddwch yn treulio gweddill eich wythnos yn gweithio gyda’n tîm profiadol.

Ein partneriaid addysg bresennol yw  

  • Coleg Cambria yng Ngogledd Cymru
  • Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Penybont yn Ne Cymru
  • Coleg Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru
A ydych chi'n cynnig prentisiaethau ym mhob rhan o Gymru?

Byddwch.  Byddwch yn gallu astudio am brentisiaeth gyda ni os ydych chi’n byw yng Ngogledd, De neu Orllewin Cymru.

Faint fyddaf yn cael fy nhalu fel prentis?

Byddwn yn talu’r Cyflog Prentisiaeth Cenedlaethol i’n holl brentisiaid. Gallwch weld y gyfradd bresennol trwy droi at GOV.UK.

Pam ddylwn i ddilyn fy mhrentisiaeth gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria?
  • Goruchwyliaeth gan weithlu profiadol, gan feithrin sgiliau rheoli amser, gweithio mewn tîm, datrys problemau a chyfathrebu ar yr un pryd
  • Rydym yn rhoi popeth i brentisiaid y bydd ei angen arnynt er mwyn cyflawni hyd eithaf eu gallu, gan gynnwys cist dŵls i’r rhai sy’n cychwyn, lwfans tŵls, gwisg a ffôn symudol gwaith
  • Cyfleoedd i ddysgu a photensial gwych o ran dilyniant gyrfa – mae nifer o’n prentisiaid wedi mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth barhaol gyda ni

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here